Plant a theuluoedd Lluoedd Arfog /
Service Children and Families

Rhaglen Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yw Cefnogi Plant Aelodau’r Lluoedd Arfog Mewn Addysg yng Nghymru (SSCE Cymru) a ariannwyd i ddechrau o Gronfa Cefnogi Addysg y Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) ond a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2019.
Ers i’r rhaglen ddechrau yn 2014, mae SSCE Cymru wedi gweithio gydag ysgolion, plant a phobl ifanc, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, gweithwyr addysg proffesiynol, teuluoedd y Lluoedd Arfog a sefydliadau cefnogi i gasglu eu safbwyntiau a’u profiadau, i adeiladu rhwydweithiau ar draws Cymru ac i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o brofiadau plant personél y Lluoedd Arfog. Mae SSCE Cymru wedi datblygu arweiniad ac adnoddau digidol ar gyfer ysgolion a theuluoedd, wedi cynnal cynadleddau a diwrnodau rhanddeiliaid ac wedi comisiynu ymchwil er mwyn deall yn well anghenion plant y Lluoedd Arfog mewn addysg.
Supporting Service Children in Education (SSCE) Cymru is a Welsh Local Government Association (WLGA) programme, initially funded by the MOD’s Education Support Fund and funded by Welsh Government from 2019.
Since the programme began in 2014, SSCE Cymru has worked with schools, children and young people, local authorities, Welsh Government, education professionals, Armed Forces families and support organisations to gather their views and experiences, build networks across Wales and raise awareness and understanding of the experiences of children of Armed Forces personnel. SSCE Cymru has developed guidance and digital resources for schools and families, hosted conferences and stakeholder days, and commissioned research to better understand the needs of Service children in education.
Diffiniad Llywodraeth Cymru o blentyn y Lluoedd Arfog:
Mae gan 'blentyn y Lluoedd Arfog' riant (rhieni) neu unigolyn (unigolion) gyda chyfrifoldeb rhiant gweithredol sydd yn bersonél y Lluoedd Arfog sy'n gwasanaethu:
- Yn Lluoedd Arfog Rheolaidd neu Wrth Gefn Ei Mawrhydi - Y Llynges Frenhinol a'r Môr-filwyr Brenhinol; Y Fyddin Brydeinig a'r Llu Awyr Brenhinol, Neu
- Yn gyn-filwr y Lluoedd Arfog sydd wedi bod mewn gwasanaeth o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf, Neu
- Bu farw un o'u rhieni wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac mae'r dysgwr wedi derbyn pensiwn o dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog neu'r Cynllun Pensiynau Rhyfel.
Am fwy o wybodaeth ewch i'r wefan:-
https://sscecymru.co.uk/cy/am-ssce-cymru/ein-cenhadaeth/
The Welsh Government's definition of a Service child:
A ‘Service child’ has parent(s) or person(s) exercising parental responsibility who is/are Service personnel serving:
- In HM Regular or Reserve Armed Forces - Royal Navy and Royal Marines; British Army and Royal Air Force, Or
- Is an Armed Forces Veteran who has been in Service within the past two years Or
- One of their parents died whilst serving in the Armed Forces and the learner has received a pension under the Armed Forces Compensation Scheme or the War Pensions Scheme.
For more information go to the website:-
https://sscecymru.co.uk/cy/am-ssce-cymru/ein-cenhadaeth/
