Ysgol Gymraeg Calon y Cymoedd

  • Search this websiteSearch Site
  • Translate the contents of this page Translate Page
  • Twitter Twitter
  • Facebook Facebook
  • Instagram Instagram
  • School Gateway School Gateway

Cwricwlwm #TeuluCyC Curriculum

"Mae cwricwlwm ysgol yn cynnwys popeth mae dysgwyr yn ei brofi wrth weithio tuag at y pedwar diben. Mae’n gysyniad mwy na’r hyn rydym ni’n ei addysgu yn unig; mae hefyd yn cwmpasu sut rydyn ni’n addysgu – ac yn fwy na dim, pam ydyn ni’n ei addysgu. " Llywodraeth Cymru

 “A school’s curriculum is everything a learner experiences in pursuit of the four purposes. It is not simply what we teach, but how we teach and crucially, why we teach it.” Welsh Government

 

 Yn Ysgol Gymraeg Calon y Cymoedd, credwn fod gan bob plentyn hawl i fynediad at gwricwlwm cyfoethog sy’n ysbrydoli, herio ac ennyn brwdfrydedd. Ein nod yw datgloi potensial pob unigolyn drwy ddarparu profiadau dysgu sy’n adeiladu gwybodaeth, yn datblygu sgiliau ac yn meithrin hyder i ffynnu fel unigolion hapus a llwyddiannus.

Rydym wedi cynllunio cwricwlwm ysbrydoledig sy’n sicrhau bod pob plentyn yn cymryd rhan lawn yn ei ddysgu. Drwy ddilyn cyfresi gwersi trylwyr, cydlynol a blaengar, mae ein disgyblion yn meithrin dealltwriaeth fanwl o Gymru a’r byd ehangach—gan archwilio’r gorffennol a’r presennol. Mae ein cwricwlwm yn mynd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, gan gynnig cyd-destunau bywyd go iawn sy’n gwneud dysgu’n berthnasol ac yn ystyrlon.

 At Ysgol Gymraeg Calon y Cymoedd we believe that every child should have the opportunity to access an enriching curriculum that challenges, inspires and excites them. We believe that every child should access opportunities to unlock  lifelong learning, knowledge and skills that will enable them to become successful, happy human beings. 

We have designed an inspirational curriculum that allows every child to participate fully in their learning. Through rigorous, coherent and progressive sequences of lessons, our pupils gain a detailed knowledge and understanding of Wales and the world, exploring both the past and the present day. 

Cwricwlwm i Gymru

Wedi adolygiad cenedlaethol dan arweiniad yr Athro Graham Donaldson, mae Cwricwlwm i Gymru bellach wedi’i gyflwyno ym mhob ysgol. Mae’n gwricwlwm sy’n cael ei arwain gan ddibenion, yn seiliedig ar gynnydd, ac yn cynnig hyblygrwydd, creadigrwydd a chyd-destun lleol ar gyfer profiadau dysgu dilys. Mae'n cefnogi dysgwyr rhwng 3 a 16 oed ar hyd eu taith ddysgu barhaus.

Mae’r meysydd pwnc wedi’u grwpio yn chwech Maes Dysgu a Phrofiad (Maes):

  • Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Iechyd a Lles
  • Dyniaethau
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Yn ogystal, mae tair sgil trawsgwricwlaidd sy’n hanfodol i bob maes dysgu:

  • Llythrennedd (Darllen, Ysgrifennu, Siarad a Gwrando)
  • Rhifedd
  • Cymhwysedd Digidol

 The Curriculum for Wales

The Curriculum for Wales has been introduced across all areas of Wales, following a review by Professor Graham Donaldson. The curriculum review suggested a purpose-led, progression based curriculum with a local context to embed real-life, authentic learning experiences. The Curriculum for Wales runs along a 3 years - 16 years continuum. 

Subjects within the curriculum have been combined into six Areas of Learning and Experience (AoLEs). 

  • Expressive Arts
  • Health & Wellbeing
  • Humanities
  • Literacy Language and Communication
  • Mathematics
  • Science & Technology

There are three cross-curricular skill elements of the Curriculum for Wales: 

  • Literacy - Reading, Writing, Speaking and Listening
  • Numeracy
  • Digital Competence

 Canllawiau Cwricwlwm i Gymru i rieni

//www.youtube.com/embed/hJjUiPkJbLU#t=0.5

 

A guide to Curriculum for Wales for parents

//www.youtube.com/embed/SCMLnc8lMxE#t=0.5

 

Y Pedwar Diben

Mae Cwricwlwm i Gymru wedi’i seilio ar Bedwar Diben canolog sy’n llywio pob agwedd ar ddysgu. Eu bwriad yw helpu pob plentyn i ddod yn:

  • Ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, yn barod i ddysgu gydol eu hoes

  • Cyfranwyr mentrus a chreadigol, yn barod i gymryd rhan lawn mewn bywyd a gwaith

  • Dinasyddion moesegol, gwybodus, o Gymru a’r byd

  • Unigolion hyderus ac iach, yn barod i fyw bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

 What are the Four Purposes?

Curriculum for Wales is a purpose-led curriculum, which means that we consider the purpose of education rather than focusing only on what content must be learned.

The Four Purposes of Curriculum for Wales are to support our children to become:

  • ambitious, capable learners ready to learn throughout their lives 

  • enterprising, creative contributors, ready to play a full part in life and work 

  • ethical, informed citizens of Wales and the world 

  • healthy, confident individuals, ready to lead fulfilling lives as valued members of society.

Elfennau Gorfodol y Cwricwlwm

Mae elfennau penodol yn orfodol ac yn cael eu haddysgu ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad:

  • Gwerthoedd ac Moeseg

  • Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb (APRh)

  • Amrywiaeth

  • Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Gwaith

  • Hawliau Dynol a Hawliau’r Plentyn

Mandatory Elements of Curriculum

Mandatory elements of the curriculum are taught across Areas of Learning and Experiences within lessons. 

  • Values and Ethics

  • Relationships and Sexuality Education

  • Diversity

  • Careers

  • Human and Children’s Rights

 Cynnydd ac Asesu

Mae cynnydd yn Cwricwlwm i Gymru yn cael ei ddiffinio drwy Gamau Cynnydd, sydd fel canllaw bras yn cyd-fynd â’r oedrannau 5, 8, 11, 14 a 16. Fodd bynnag, mae cynnydd yn seiliedig ar gyfnod dysgu ac nid ar oedran—gan gydnabod y bydd disgyblion yn symud ymlaen ar gyflymderau gwahanol.

Mae asesu’n rhan annatod o’r broses ddysgu ac addysgu. Mae asesu ffurfiannol—hynny yw asesu er mwyn dysgu—wedi’i wreiddio ym mhob amgylchedd dosbarth ac yn cynnwys cwestiynu, trafodaethau, gwaith ysgrifenedig, hunanasesu ac asesu gan gyfoedion. Mae hyn yn sicrhau bod camddealltwriaeth yn cael ei nodi a’i chywiro’n brydlon ac bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd ystyrlon.

 Assessment and Progression

The progression reference points for the Curriculum for Wales are identified as Progression Steps. As a rough guide, Progression Step 1 will be covered at 5 years old, Progression Step 2 at 8 years old, Progression Step 3 at 11 years old, Progression Step 4 at 14 years old and Progression Step 5 at 16 years old. Progression is based on stage, not age and pupils will make progress at different rates. 

All forms of assessment informs teaching and learning and ensures that misconceptions are identified and addressed and progress is made. Formative assessment, that is assessment for learning, is embedded within all classroom learning environments, such as the use of questioning, discussions, written work and peer and self assessment.

 

Cydweithio Clwstwr Llangynwyd

Llangynwyd Cluster Collaboration

Ers ddechrau ar y siwrne i Cwricwlwm i Gymru, rydym wedi gweithio'n agos gyda ysgolion y clwstwr er mwyn datblygu cwricwlwm cydlynol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau allweddol. Trwy gydweithio fel clwstwr, gallwn sicrhau dilyniant clir yn y dysgu, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael taith ddysgu esmwyth a chefnogol wrth iddynt symud ymlaen i addysg uwchradd. Mae’r dull ar y cyd hwn yn helpu pob plentyn i deimlo’n hyderus ac yn barod ar gyfer y cam nesaf.

 Since the beginning of our Curriculum for Wales journey, we have worked closely with the cluster schools to develop a cohesive, skills-based curriculum that supports a smooth and progressive learning journey. Through collaboration across the cluster, we ensure consistency in key skill development, allowing each child to build on their knowledge confidently as they transition into secondary education. This joined-up approach strengthens progression and helps every child feel prepared and supported for the next stage of their learning.